Memorandwm Esboniadol i Orchymyn (Anghymhwyso) 2015 Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan Adran yr Ysgrifennydd Parhaol ac fe’i cyflwynir ger bron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1  

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi safbwynt teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Gorchymyn (Anghymhwyso) Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

 

 

 

Carwyn Jones

Prif Weinidog Cymru

1 Ebrill 2015


Disgrifiad

 

1.    Mae'r Gorchymyn drafft hwn yn dynodi rhai swyddi fel swyddi sy’n anghymhwyso eu deiliaid rhag bod yn Aelodau Cynulliad.  Cred Llywodraeth Cymru y dylid cyfyngu anghymhwyso rhag aelodaeth o’r Cynulliad i gyn lleied o ddinasyddion â phosib ond mae’n cydnabod bod gweithgarwch gwleidyddol yn amhriodol ar gyfer deiliaid rhai swyddi.  Yn benodol, mae angen gwarchod rhai swyddi cyhoeddus rhag rhagfarn wleidyddol, gan gynnal annibyniaeth ar y broses etholiadol.

 

 

Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

2.    Mae’r Gorchymyn drafft yn ystyried yr argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – ‘Ymchwiliad i Anghymhwyso o Aelodaeth o Gynulliad Cenedlaethol Cymru’ a gyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2014, ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad hwnnw, a gyhoeddwyd ar 22 Hydref 2014.

 

3.    Roedd adroddiad y Pwyllgor yn datgan yr egwyddorion a ddylai fod yn sail ym marn y Pwyllgor i anghymhwyso o aelodaeth o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a chyflwynodd argymhellion penodol ar gynnwys y gorchymyn nesaf a oedd yn manylu ar anghymhwyso o aelodaeth o’r Cynulliad. Esboniodd ymateb Llywodraeth Cymru ein bod yn cytuno â byrdwn cyffredinol adroddiad y Pwyllgor, ac â mwyafrif argymhellion penodol y Pwyllgor.

 

4.    Cytunodd Llywodraeth Cymru hefyd i ymgynghori ar gynnwys y gorchymyn nesaf sy’n manylu ar anghymhwyso o aelodaeth o'r Cynulliad, mewn da bryd i alluogi i'r gorchymyn nesaf fod yn ei le cyn etholiad nesaf y Cynulliad.  Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwnnw rhwng 14 Ionawr ac 11 Mawrth 2015, ac mae’r Gorchymyn drafft yn ystyried canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw.

 

 

Cefndir deddfwriaethol

 

5.    Mae’r offeryn drafft hwn yn Orchymyn drafft yn y Cyfrin Gyngor i’w wneud o dan adran 16 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

6.    Mae Adran 16 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi nifer o bersonau nad ydynt yn cael bod yn aelodau o’r Cynulliad.  Yn ogystal, mae’n darparu i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddynodi swyddi pellach a mathau pellach o gyflogaeth, lle byddai’r deiliaid swyddi a’r mathau hynny o gyflogaeth hefyd yn cael eu hanghymhwyso rhag bod yn aelodau o’r Cynulliad.  Dim ond gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor y gellir gwneud Gorchymyn o’r fath, os yw drafft wedi cael ei gyflwyno ger bron y Cynulliad a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

 

Bwriad y ddeddfwriaeth - o ran ei phwrpas a’i heffaith

 

7.    Cyn pob etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gwneir Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 16 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ac mae’n manylu ar y swyddi y mae eu deiliaid wedi’u hanghymhwyso o fod yn Aelodau o’r Cynulliad.

 

8.    Ar hyn o bryd, mae Gorchymyn (Anghymhwyso) Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2010 mewn grym o hyd, ac felly mae personau sy'n dal unrhyw rai o'r swyddi y manylir arnynt yng Ngorchymyn 2010 wedi'u hanghymhwyso o fod yn aelodau o'r Cynulliad.

 

9.    Felly, bwriad y Gorchymyn drafft hwn o ran effaith yw dirymu Gorchymyn 2010 a chreu rhestr wedi’i diweddaru o swyddi anghymhwyso mewn da bryd cyn yr etholiad Cynulliad nesaf ym mis Mai 2016.

 

10.Ei bwrpas yw anghymhwyso deiliaid rhai swyddi rhag bod yn aelodau o’r Cynulliad pan fo hyn yn angenrheidiol er mwyn gwarchod annibyniaeth y broses etholiadol, atal gwrthdaro buddiannau, neu i warchod swyddi cyhoeddus penodol rhag rhagfarn wleidyddol.

 

11.Ar ôl ystyried adroddiad manwl ac argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, aeth Llywodraeth Cymru ati i ddatgan ei meini prawf ar gyfer penderfynu pa swyddi ddylid eu rhestru yn y Gorchymyn drafft.  Cyhoeddwyd y meini prawf hyn yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Gorchymyn drafft.  Mae’r meini prawf wedi’u nodi isod ac maent yn deillio o’r egwyddorion yn argymhelliad 1 adroddiad y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2014, yr argymhellion penodol ar gyfer anghymhwyso swyddi yn argymhelliad 12 yr adroddiad hwnnw, a safbwyntiau Llywodraeth Cymru ar anghymhwyso staff cyhoeddus fel y nodir yn ei hadroddiad ym mis Hydref 2014:

 

12.Egwyddorion cyffredinol, fel y nodir yn argymhelliad 1 adroddiad y Pwyllgor:

Egwyddor 1: Mae hyrwyddo cyfranogiad democrataidd a'r hawl i sefyll fel Aelod Cynulliad yn hollbwysig.

 

Egwyddor 2: Dylai anghymhwyso person rhag bod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei gyfyngu i gyn lleied o ddinasyddion â phosib.

 

Egwyddor 3: Mae gweithgarwch gwleidyddol yn amhriodol yng nghyswllt rhai dinasyddion er mwyn:

                      i.        amddiffyn annibyniaeth y broses etholiadol;

                    ii.        atal gwrthdaro rhag codi rhwng buddiannau pan gaiff unigolyn ei ethol; a

                   iii.        amddiffyn rhai swyddi cyhoeddus rhag rhagfarn wleidyddol.

 

Egwyddor 4: Dylai gorchymyn anghymhwyso fod yn berthnasol i’r dinasyddion canlynol:

                      i.        y rhai y mae eu rôl yn cynnwys gofyniad cyffredinol am fod yn ddiduedd,

                    ii.        gan gynnwys y rhai y mae eu cyfrifoldebau’n cynnwys y broses etholiadol ei hun;

                   iii.        y rheini sy’n dal unrhyw swydd gyhoeddus lle derbynnir budd ariannol sylweddol oddi wrth Lywodraeth Cymru;

                   iv.        y rheini sydd mewn swydd gyhoeddus ac yn darparu cyngor ffurfiol i Lywodraeth Cymru yn y rôl honno;

                    v.        y rheini sy’n dal unrhyw swydd gyhoeddus sy’n destun craffu gan y Cynulliad.

 

Egwyddor 5: Os oes rhaid anghymhwyso, rhaid iddynt fod:

                      i.        yn gyson â’r egwyddorion hyn;

                    ii.        yn glir ac yn ddiamwys;

                   iii.        yn gymesur.

 

13. Dylid anghymhwyso’r swyddi a ddisgrifir yn argymhelliad 12 a dylid eu cynnwys yn y Gorchymyn Anghymhwyso oni bai eu bod wedi’u hanghymhwyso eisoes o dan adran 16 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

14. Dylid anghymhwyso aelodau o dribiwnlysoedd barnwrol.

 

15. Fel rheol, dylai personau a benodir gan Weinidogion Cymru gael eu hanghymhwyso, ond efallai y bydd achosion lle na ddylid anghymhwyso personau o'r fath (os felly, bydd ystyried y pum egwyddor y cyfeirir atynt uchod yn bwysig).

 

16. Ni ddylid anghymhwyso staff cyhoeddus fel y disgrifir yn argymhelliad 13 (e.e. staff Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Heddlu, Tân ac Achub, staff Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru) – gellid cymryd yn ganiataol y byddai staff o’r fath yn rhoi’r gorau i’w cyflogaeth pe baent yn cael eu hethol oherwydd byddai parhau mewn cyflogaeth ar yr un pryd â chyflawni cyfrifoldebau fel Aelod Cynulliad yn arwain at ofynion amhosib ar yr unigolyn.

 

 

Ymgynghoriad

 

17. Ar y 14 Ionawr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Orchymyn (Anghymhwyso) drafft 2015 Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn ceisio barn am ba swyddi ddylid eu cynnwys yn y gorchymyn hwnnw. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 11 Mawrth 2015, gan ganiatáu cyfnod ymgynghori o wyth wythnos.  Yn ogystal â bod ar gael yn gyhoeddus ar wefan Llywodraeth Cymru, cysylltwyd â’r swyddi a restrwyd ar gyfer anghymhwyso o dan y Gorchymyn drafft, i sicrhau bod ganddynt gyfle i fynegi eu safbwyntiau ynghylch a oeddent yn teimlo bod eu cynnwys yn y Gorchymyn yn briodol, ac a oedd unrhyw swyddi eraill y credent y dylid eu cynnwys.

 

18. Cafwyd wyth ymateb cadarn i’r ymgynghoriad.  Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion hyn gan gyrff a gadarnhaodd eu bod yn fodlon gyda’r anghymhwyso arfaethedig ar gyfer y swyddi a restrwyd yn y Gorchymyn drafft ac a oedd yn berthnasol iddynt hwy.  Nododd un ymateb nad oedd aelodau’r Tribiwnlys Cyflogaeth yn rhan o’r Gorchymyn drafft ac awgrymodd y dylent fod.  Roeddem yn cytuno, yn seiliedig ar y meini prawf a amlinellwyd ym mharagraffau 12-16 uchod, y dylid anghymhwyso aelodau'r Tribiwnlysoedd Cyflogaeth a'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth ac mae’r rhain wedi cael eu cynnwys yn y Gorchymyn drafft yn awr.

 

19. Mae dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad, a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru yn

http://gov.wales/consultations/finance/disqualification-order/?skip=1&lang=cy

 

 

Asesiad Effaith Rheoleiddiol

 

20.Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gyfer cynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Orchymyn hwn.O ganlyniad, ni chredid ei bod yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Gorchymyn.

 

21.Nid yw’r Gorchymyn hwn yn cael unrhyw effaith ar ddyletswyddau statudol Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chyfle cyfartal (adran 77 Deddf Llywodraeth Cymru 2006), yr iaith Gymraeg (adran 78 y Ddeddf), neu ddatblygu cynaliadwy (adran 79 Deddf Llywodraeth Cymru 2006), ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar lywodraeth leol, y sector gwirfoddol na chynlluniau busnes o dan adrannau 73, 74 a 75 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ôl eu trefn.